Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
23 Tachwedd 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12497
------
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-8. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Pwynt o Drefn
Cododd Darren Millar Bwynt o Drefn ynghylch ateb a roddwyd gan y Prif Weinidog a gofynnodd i’r Prif Weinidog gywiro’r cofnod mewn cysylltiad â pharodrwydd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i gwrdd i drafod cydweithredu mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin. Dywedodd y Llywydd y dylai’r Prif Weinidog adolygu’r ohebiaeth berthnasol a chywiro’r Cofnod pe bai angen.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.28
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig Yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 14.45
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19
Dechreuodd yr eitem am 15.19
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.52 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.
5 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd
Dechreuodd yr eitem am 16.02
6 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg
Dechreuodd yr eitem am 16.44.
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021
Dechreuodd yr eitem am 17.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7838 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2021.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
13 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)
Dechreuodd yr eitem am 17.29
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7837 Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
11 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
9 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Lluoedd Arfog
Dechreuodd yr eitem am 17.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7836 Hannah Blythyn (Delyn)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Lluoedd Arfog i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
11 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
10 Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2020-21 ac ail adroddiad 5 mlynedd y Comisiynydd
Dechreuodd yr eitem am 17.56
NDM7835 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2020-21).
2. Yn nodi Adroddiad 5 mlynedd Comisiynydd y Gymraeg (2016-20).
Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2020-21)
Adroddiad 5 mlynedd Comisiynydd y Gymraeg (2016-20)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
11 Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
Dechreuodd yr eitem am 18.23
NDM7834 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar weithrediad Tribiwnlysoedd Cymru dros flwyddyn ariannol 2020-2021.
Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru - Trydydd Adroddiad Blynyddol 2020-2021
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.48 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
12 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 18.55 ar gyfer y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 18.55
Daeth y cyfarfod i ben am 18.58
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 24 Tachwedd 2021